Sut ydw i’n gosod y broses dilysu sawl cam yn fy nghyfrif defnyddiwr fel arsyllwr?

Mae'n bosib y bydd ysgol eich myfyriwr yn galluogi proses ddilysu sawl cam ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr. Mae proses dilysu sawl cam yn ychwanegu elfen o ddiogelwch at eich cyfrif trwy gadarnhau mai chi yw'r defnyddiwr sy'n ceisio cael mynediad ato. Gall y broses ddilysu sawl cam fod yn opsiynol neu'n ofynnol.

Rhaid bod gennych chi ddyfais symudol ar gyfer gosod proses dilysu sawl cam ar eich cyfrif defnyddiwr. Rhaid i'r ddyfais allu anfon negeseuon testun (SMS), neu os oes gennych chi ffôn clyfar gallwch lwytho ap dilysu cyfrinair un tro sy’n seiliedig ar amser (TOTP) ar iPhone neu Android (ex: Google Authenticator, Microsoft Authenticator, Authy).

Nodyn: Mae'r wers hon yn dangos sut i osod dilysu sawl cam os yw'n osodiad opsiynol yn eich cyfrif defnyddiwr. Ond, os yw proses dilysu sawl cam yn ofynnol yn ysgol eich myfyriwr, byddwch yn gweld y dudalen dilysu sawl cam yn syth ar ôl mewngofnodi i Canvas.

Agor Gosodiadau Cyfrif

Agor Gosodiadau Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Gosod y broses Dilysu Sawl Cam

Gosod y broses Dilysu Sawl Cam o Osodiadau Defnyddiwr

Cliciwch y botwm Gosod y broses Dilysu Sawl Cam (Set Up Multi-Factor Authentication).

Dilysu gydag Ap Dilysu

Dilysu gyda Google Authenticator

I wirio’r broses dilysu sawl cam gydag ap dilysu cyfrinair un tro sy’n seiliedig ar amser (TOTP) ar iPhone neu Android (ex: Google Authenticator, Microsoft Authenticator, Authy), llwythwch yr ap i lawr ar gyfer eich dyfais.

Defnyddiwch yr ap i sganio a chreu cod QR [1]. Rhowch y cod yn y maes Cod Cadarnhau (Verification Code) [2].

Os ydych chi am i'r broses dilysu sawl cam gofio'r cyfrifiadur rydych chi'n ei ddefnyddio i fewngofnodi i Canvas, cliciwch y blwch ticio Cofio'r cyfrifiadur hwn (Remember this computer) [3].

Cliciwch y botwm Cadarnhau (Verify) [4].

Cadarnhau gyda Neges Destun

Cadarnhau gyda Neges Destun

I wirio’r broses dilysu sawl cam gyda neges destun, rhowch eich rhif ffôn [1] a dewiswch eich cludydd [2].  Dyma'r rhif y bydd eich cod dilysu sawl cam yn cael ei anfon ato.

Ar ôl i chi osod rhif ffôn newydd, neu ddewis rhif ffôn sy'n bodoli'n barod, cliciwch y botwm Anfon (Send) [3]. Bydd eich dyfais symudol yn derbyn cod cadarnhau. Rhowch y cod yn y maes Cod Cadarnhau (Verification Code) [4].

Os ydych chi am i'r broses dilysu sawl cam gofio'r cyfrifiadur rydych chi'n ei ddefnyddio i fewngofnodi i Canvas, cliciwch y blwch ticio Cofio'r cyfrifiadur hwn (Remember this computer) [5].

Cliciwch y botwm Cadarnhau (Verify) [6].

Rheoli'r broses Dilysu Sawl Cam

Rheoli'r broses Dilysu Sawl Cam

Ar ôl galluogi'r broses dilysu sawl cam, mae'n bosib y bydd eich tudalen Gosodiadau Defnyddiwr yn dangos opsiynau ychwanegol i reoli eich proses ddilysu.

Gallwch ddewis creu codau dilysu sawl cam fel dewis wrth gefn rhag ofn nad yw eich dyfais dilysu ar gael [1]. Mae'r opsiwn hwn ar gael i bob defnyddiwr sydd â dilysu sawl cam.

Os yw dilysu sawl cam yn opsiynol ar gyfer eich cyfrif, gallwch ddewis i ail-ffurfweddu'r broses ddilysu [2] neu analluogi'r broses ddilysu [3].